Fel Cristnogion, rydym yn addoli Duw cyfiawnder y bydd pob un ohonom yn gofod rhoi cyfrif un dydd fel y barnwr cyfiawn. Ef ei hun yw’r un sanctaidd: gallwn ddweud cymaint o ddifri y mae’n ystyried hyn drwy faint o gyfreithiau a roddodd i Israel yr Hen Destament. “Duw sydd farnwr cyfiawn, a Duw sy’n dedfrydu bob amser.” (Salm 7:11), Canodd Dafydd ??? (symud) Bydd gwas Duw’n “cyhoeddi barn i’r cenhedloedd” (Eseia 42:1). Meddai Amos, “Ond llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref,” (Amos 5:24)
Mae cyfiawnder yn wirioneddol bwysig i Dduw; yn wir, y mae’n rhan o’r rheswm iddo sefydlu llywodraethau yn y lle cyntaf: “Y mae’r llywodraethwyr yn ddychryn, nid i’r sawl sy’n gwneud drygioni. A wyt ti am fyw heb ofni’r awdurdod? Gwna ddaioni, a chei glod ganddo. Oherwydd gwas Duw ydyw, yn gweini arnat er dy les. Ond os drygioni a wnei, dylit ofni, oherwydd nid i ddim y mae’n gwisgo’r cleddyf. Gwas Duw ydyw, ie, dialydd i ddwyn digofaint dwyfol ar y drwgweithredwr.” (Rhufeiniaid 13:3-4).
Ond mae sut y dylai hyn weithio’i hun allan yn ymarferol yn fater i’w drafod: o fewn gwleidyddiaeth Prydain, mae’r prif bleidiau weithiau’n ymddangos fel pe baent ar ymgyrch i drechu ei gilydd ar pwy all swnio’n galetaf ar droseddu a phwy all gynnig y dedfrydau hirach. Caiff troseddau newydd eu diffinio fyddai’n troseddoli sylwadau cymharol ddiniwed a tharfu ar ryddid crefyddol a chred. A thrwy hyn i gyd, mae rhai o’r cwestiynau pwysicaf, sy’n ymwneud â’r posibilrwydd o adferiad ac achubiaeth, neu sut y gallwn ni atal troseddu ymlaen llaw a gwella’r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol, yn cael eu gwthio i’r neilltu.
O fewn meddylfryd Gristnogol, mae dwy brif agwedd tuag at faterion cyfiawnder: cyfiawnder cosbol a chyfiawnder adferol. Mae cyfiawnder cosbol yn canolbwyntio’n bennaf ar gosbi fel dull o atal troseddu yn y dyfodol (boed i’r unigolyn neu i eraill). Ei ffurf mwyaf eithafol – nad yw’n gyfreithlon ym Mhrydain bellach – yw’r gosb eithaf; mae gan gyfiawnder cosbol gefnogaeth Feiblaidd, ac mae gan y gosb eithaf gefnogaeth Feiblaidd mewn rhai achosion eithafol megis llofruddiaeth. Darllenwn yn Genesis 9:6: “A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.”
Mae cyfiawnder adferol yn canolbwyntio fwy ar droseddwr yn ceisio gwneud iawn am ei ymddygiad, gyda’r nod o adfer y perthnasoedd gyda’r dioddefwr a’r gymuned, ac yn y pendraw yn cael ei adfer ei hun hefyd. Mae cefnogaeth Feiblaidd i gyfiawnder adferol hefyd: yn Lefiticws 6:1-6, er enghraifft, darllenwn am beth ddylai ddigwydd pan fydd dyn yn dwyn gan ei gymydog. Mae’r drwgweithredwr i roi’r hyn gafodd ei ddwyn yn ôl i’w gymydog ac i ychwanegu ar ben hynny ugain y cant ychwanegol o werth yr eitem gafodd ei ddwyn er mwyn cyflawni ‘adferiad yn llawn.’ Mae angen iddo hefyd gyflwyno offrwm i’r Offeiriad. Ond yn hytrach na chael ei roi yn y carchar, bydd wedyn yn cael ei ail-integreiddio i’r gymuned, gyda’r bwriad o adfer pob perthynas.
Cyfiawnder adferol effeithiol a mai a cyfiawnder. Mae wedi profi i fod yn effeithiol dros ben i leihau cyfraddau troseddu mewn rhai meysydd, ac yn enwedig at atal ad-droseddu, gyda chyfraddau ad-droseddu o fewn 12 mis ym Mhrydain yn uchel ar hyn o bryd (dros 60%), ac mae charcharau’n orlawn.
Mae gan Duw ofal dros ddioddefwyr troseddau: gwyddwn nad yw Ef fyth yn ysgubo drygioni o dan y carped, ond iddo ei gymryd cymaint o ddifri nes iddo anfon ei Fab ei hun i farw er mwyn cyflawni galwadau cyfiawn y gyfraith ac i’n hachub ni. Does dim byd nad yw Duw’n ei weld: “yr wyt … wedi costrelu fy nagrau – onid ydynt yn dy lyfr?” (Salm 56:8). Fydd yna ddim byd na fydd Ef, un dydd, yn ei farnu gyda chyfiawnder perffaith. Ac un dydd, bydd Ef – mewn rhyw ffordd ddirgel – yn rhoi popeth yn iawn eto, hyd yn oed yr hyn a fu’n fwyaf poenus: yn y Greadigaeth Newydd, “ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd” (Datguddiad 22:2).
Ond gwyddwn hefyd fod gan Dduw ofal dros y rhai sy’n gwneud drwg a’i fod hyd yn oed am i ni wneud yr un modd. Pan ddaeth Iesu yn cyhoeddi Teyrnas Dduw, dywedodd fod yr Ysbryd wedi’i anfon “i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.” (Luc 4:18-19). Nid condemnio’r rhai oedd wedi gwneud drwg yn unig yr oedd am wneud, ond i ddod â rhyddid iddynt.
Fe ddysgodd ei ddisgyblion y dylent garu eu gelynion a gweddïo dros y rhai sy’n eu herlid (Mathew 5:44). Dywedodd hyd yn oed y gallai ei ddilynwyr gwrdd ag Ef drwy ymweld â’r rhai sydd mewn carchar: “Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod i mi…… bûm yng ngharchar a daethoch ataf.” (Mathew 25:35-36).
Yn y pen draw, mae’r Beibl yn rhoi enghreifftiau o gyfiawnder cosbol a chyfiawnder adferol, ac mae angen y ddau ohonynt. Ond yn ein hagwedd tuag at y rhai sy’n gwneud drwg, rhaid i ni beidio anghofio ein bod fel Cristnogion yn bobl sydd wedi ein hachub drwy ras, nid yn derbyn yr hyn rydyn ni’n ei haeddu, ond wedi ein hachub gan Ei drugaredd a’i garedigrwydd. A gadewch i ni edrych ymlaen, gyda gobaith, at ddiwrnod pan fydd y barnwr cyfiawn, heb ystyried amherffeithrwydd cyfiawnder a barn dynol, yn dal pob un, yn berffaith, i gyfrif a phan fydd popeth a ddywedwyd yn dod yn anwiredd.
17If anyone, then, knows the good they ought to do and doesn’t do it, it is sin for them.
28 God blessed them and said to them, ‘Be fruitful and increase in number; fill the earth and subdue it. Rule over the fish in the sea and the birds in the sky and over every living creature that moves on the ground.’