Pam Pleidleisio?
‘Pam ddylwn i bleidleisio?’ Mae'n gwestiwn mawr i Gristnogion.
Yn enwedig mewn diwylliant sy'n teimlo'n gynyddol bell oddi wrth werthoedd Cristnogol. Oes yna unrhyw bwynt? Rydyn ni'n clywed hyn yn aml.
Er bod gwleidyddiaeth mewn byd toredig yn gallu bod yn hynod o ddigalon ar adegau, credwn fod pleidleisio’n bwysig. Dyma ddeg rheswm i#FyndAllaniBleidleisio
1
Mae Cristnogion yn credu fod dynoliaeth wedi’i greu i reoli’r ddaear a’i ddarostwng. Mae llywodraeth yn ddull i ni stiwardio creadigaeth Duw.
2
Pan ofynnwyd i Iesu beth oedd y gorchymyn pwysicaf, atebodd mai caru Duw a charu eich cymydog oedd hwnnw. Mae pleidleisio’n un ffordd y gallwn ni weithio ar ran y rhai sydd o’n cwmpas.
3
Er efallai ein bod yn teimlo fel alltudion mewn gwrthdaro gyda’r byd heddiw, mae Duw am i’w bobl geisio heddwch a ffyniant ein gwlad.
4
Mae gan Gristnogion alwad penodol i siarad ar ran y rhai heb lais a’r rhai mwyaf agored i niwed.
5
Credwn fod Duw wedi datgelu i ni ei gyfraith dda sy’n helpu dynoliaeth i ffynnu, ac rydym am weld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cyfreithiau y mae ein llywodraethau’n eu pasio.
6
Mae Duw’n ein galw i ddarostwng i’r awdurdodau llywodraethol rydym yn eu hethol drwy ein pleidleisiau.
7
Mae’r Beibl yn dweud wrthym am achlysuron lle mae arweinwyr wedi arwain eu pobl ar gyfeiliorn; bydd y gwleidyddion y byddwn yn eu hethol yn arwain ein cenedl, a gallant arwain pobl yn nes at Dduw neu oddi wrtho.
8
Dywed Iesu y dylem stiwardio’r rhoddion y mae Duw’n eu rhoi i ni. Mae llawer o bobl drwy hanes sydd heb fod â’r rhodd o lais mewn etholiad teg, democrataidd fel sydd gennym ni.
9
Bydd Duw yn ein gwneud yn atebol am y gweithredoedd nad ydyn ni’n eu gwneud, yn union fel y bydd am y rhai y byddwn yn eu gwneud. Nid yw peidio pleidleisio yn weithred niwtral: rydyn ni’n dal yn dylanwadu ar y canlyniad, yn union fel yr ydym pan fyddwn yn pleidleisio.
10
Mae’r Beibl yn dangos i ni y dylem ofalu am ein harweinwyr gwleidyddol a gweddïo drostynt, fel y gallwn fyw bywyd heddychlon a thawel, yn dduwiol ac urddasol ym mhob ffordd. Dyma fydd ein dyhead am y gwleidyddion y byddwn yn eu hethol.
Mae’r adnodau’n dod o’r Beibl Cymraeg Newydd, Hawlfraint © 1973, 1978, 1984, 2011 gan Biblica, Inc.™ Defnyddiwyd gyda chaniatâd Zondervan. Cedwir pob hawl yn fyd-eang.