Am CARE
Ein gweledigaeth yw gweld gwleidyddiaeth yn cael ei adfywio a bywydau'n cael eu trawsnewid.
Credwn y gall gwleidyddiaeth ar ei orau fod yn rym er daioni ac y gall Cristnogion wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy weddi a gweithred. Mae’r Beibl yn adrodd stori well i’n byd toredig – mae ffyrdd Duw ar gyfer cymdeithas yn dda. Drwy ymgysylltu â gwleidyddiaeth a’i helpu i fod cystal ag y gall fod, gallwn ddechrau gweld cymdeithas lle mae pawb yn ffynnu yn unol â bwriad Duw.
Am dros 40 mlynedd rydyn ni wedi bod yn llais amlwg ar ran y rhai heb lais a’r rhai sydd wedi’u hymyleiddio, yn ymgyrchu dros gymdeithas sy’n adlewyrchu mwy o galon Duw. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag eglwysi, gwleidyddion ac arweinwyr yfory. Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith a chanfod amrywiaeth o adnoddau defnyddiol sy’n eich helpu i feddwl am ymgysylltiad Cristnogol yn y byd cyhoeddus ar ein gwefan: care.org.uk
Ross Hendry
Prif Swyddog Gweithredol CARE
Cofrestrwch i dderbyn y diweddaraf dwy e-bost
Byddwn wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi am beth sy’n digwydd o fewn gwleidyddiaeth ar draws y DU o safbwynt Cristnogol. Y ffordd orau i wneud hyn yw cofrestru i dderbyn ein e-bost wythnosol, Impact Direct.
Bob wythnos byddwch yn derbyn sylwebaeth Gristnogol ar straeon newyddion mwyaf yr wythnos, y diweddaraf o San Steffan a gwledydd eraill yn y DU, pwyntiau gweddi ac adnoddau newydd gwych.
Cyfrannu i CARE
Mae’ch cyfraniad i CARE yn ein galluogi i barhau i weithio tuag at ddiwylliant a chymdeithas sy’n adlewyrchu gwell stori i bawb.
Gofynnwn i chi ystyried cyfrannu i CARE dim ond ar ôl i chi ystyried anghenion eich teulu a’ch eglwys.