Fedrwn ni ddim disgwyl i’r Beibl ddarparu cyfarwyddiadau polisi penodol i ni ar gyfer ein heconomi heddiw; cafodd yr Hen Destament, yn enwedig, ei ysgrifennu mewn cymdeithas amaethyddol, lle roedd gwaith pobl yn troi o amgylch eu hanghenion biolegol, lle mae cymdeithas heddiw yn fwy am ddiwylliant prynu. Ond, fel bob amser, mae’r Beibl yn rhoi egwyddorion eang, defnyddiol i ni am ddynoliaeth, arian ac eiddo y gallwn eu mabwysiadu a’u trosi i gyfateb i Brydain yr unfed ganrif ar hugain.
Egwyddor gyntaf bwysig i bob un ohonom, wrth i ni ystyried sut y gallai polisi economaidd y Llywodraeth effeithio arnom ni, yw ein bod, yn y pen draw, i gyd yn stiwardiaid o’r hyn rydym yn eiddo arno: “Eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a’i llawnder” (Salm 24:1). Duw sydd â’r hawl cyntaf ar bopeth y credwn sy’n eiddo i ni: fel y dywedodd Dafydd, “Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o’th eiddo dy hun y rhoesom iti” (1 Cronicl 29:14).
Fel stiwardiaid, rydym i ddefnyddio’r hyn a roddwyd i ni yn ddoeth (fel yn Nameg y Codau o Arian yn Mathew 25:14-30), ond nid ydym i fod i wneud eilun o ffyniant economaidd, ac i fynd ati i gronni eiddo i ni ein hunain (Luc 12:16-21). Nid yw Iesu, yn y pen draw, yn dweud fod rhywbeth yn wrthrychol anghywir am fod yn gyfoethog, ac mae’r Hen Destament yn cydnabod fod stiwardiaeth dda’n cynnwys trosglwyddo etifeddiaeth i’n hwyrion hyd yn oed (Diarhebion 13:22), ond mae’n ein rhybuddio am beryglon cyfoeth (“Ni allwch wasanaethu Duw ac Arian”: Mathew 6:24) ac rydym hyd yn oed yn gweld astudiaeth achos am ddyn oedd eisiau dilyn Iesu ond, yn y pen draw, doedd o ddim yn gallu ildio ei gyfoeth i ddod yn ddisgybl (Marc 10:17-27). Mae hyn yn fygythiad penodol i frenhinoedd a llywodraethau: mae Duw’n eu rhybuddio i beidio â chronni gormod o aur ac arian iddynt eu hunain, ond yn hytrach i edrych ar les eu pobl (Deuteronomium 17:17).
Beth mae hyn yn ei ddangos, fodd bynnag, yw, yn hytrach na disgwyl i’r llywodraeth ddarparu’r atebion i’n holl gwestiynau economaidd, fod gennym gyfrifoldeb unigol dros sut yr ydym yn defnyddio ein cyfoeth, yn yr un modd â sefydliadau eraill, megis eglwysi (fel y mae’r eglwys fore’n ei wneud yn Actau 2 ac Actau 4). Nid yw’r Beibl yn pennu a ddylai llywodraeth fod yn fwy neu’n llai ymyrrol mewn economeg, er ei fod yn darparu enghreifftiau o pryd y dylai fod yn ymyrryd, yn siarad ar ran y tlodion a’r rhai agored i niwed (ee. Jeremeia 22:1-5).
Yn wir, o fewn gweledigaeth Duw ar gyfer yr economi, fe welwn fod ganddo gonsyrn penodol dros y tlodion. Dywedodd Iesu ei fod wedi dod i “gyhoeddi newyddion da i’r tlodion”, yn ei bregeth gyhoeddus gyntaf oedd yn datgan ei agenda i ddod â theyrnas Duw. Caiff amryw o gymeriadau eu canmol am helpu’r tlodion, o Job (Job 29:16), i Salum, brenin Jwda (Jeremeia 22:16) a Tabitha (Actau 9:36). Mae Duw’n dweud wrth cenedl Israel i fabwysiadu gwahanol fesurau er budd yn rhai mewn tlodi, megis maddau dyledion ar ddiwedd pob saith mlynedd (Deuteronomium 15) neu flwyddyn Jiwbili (Lefiticus 25).
Yn y pen draw, mae Duw’n adnabod tensiwn: Yn Deuteronomium 15, ar y naill law, mae’n dweud, “Ni fydd byth dlotyn yn eich plith” os ydyn nhw’n dilyn ei orchmynion, ac eto, dim ond ychydig adnodau’n ddiweddarach, dywed, “Ni fydd prinder tlodion yn y tir”. Ond mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dweud “Ni fydd byth dlotyn yn eich plith” ac y dylai pawb fod yn eiddo ar swm cyfartal; fel y dywedodd Iesu, “y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog” (Luc 10:7), a rhoddodd Paul reol i’r Thesaloniaid mewn perthynas â diogi: “os oes rhywun sy’n anfodlon gweithio, peidied â bwyta chwaith.”
Mae Duw’n nodi dau ddull o weithredu i helpu’r tlodion: gallen ni eu diffinio fel cardod neu help llaw. Roedd angen y ddau beth, hyd yn oed os ydyn ni’n dod i gasgliadau gwahanol ynghylch y cydbwysedd rydyn ni’n ceisio ei gael rhyngddynt. Roedd rhai o’r darpariaethau gafodd eu sefydlu gan Dduw yn fater o roi cymorth i’r tlodion, megis y degwm tair blynedd oedd yn cael ei gasglu ar ran y rhai agored i niwed (Deuteronomium 14:28-29), neu’r cyfreithiau ar loffa (er, yn y pen draw, roedd rhaid i’r tlodion fynd allan i gasglu’r grawn yn y diwedd). Roedd mesurau eraill wedi’u dylunio i helpu’r tlodion i ennill bywoliaeth: gallen nhw gynnig eu gwasanaeth am gyflog (Lefiticus 25:39-43), er, yn hanfodol, nid oedd bwriad i hyn fod yn drefniant parhaol, gan gael eu rhyddhau o’r trefniant ar flwyddyn Jiwbili,
Nid bwriad mesurau o’r fath oedd cynyddu anghydraddoldeb: Dywedodd Duw yn benodol na ddylai’r Israeliaid fenthyca arian am log, ac ni allent werthu ei gilydd fel caethweision. Cynllun Duw i’r tlodion oedd iddynt fod yn rhydd ac i ffynnu, mewn cyferbyniad â rhai mesurau heddiw mewn perthynas â benthyciadau a dyledion. Yn y pen draw, credwn y daw dydd pan na fydd unrhyw anghyfiawnder economaidd yn bod: edrychwn ymlaen at y dydd pan fydd geiriau Eseia’n wir: “Ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden, a’m hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.”
17If anyone, then, knows the good they ought to do and doesn’t do it, it is sin for them.
28 God blessed them and said to them, ‘Be fruitful and increase in number; fill the earth and subdue it. Rule over the fish in the sea and the birds in the sky and over every living creature that moves on the ground.’