Mae dioddefaint, afiechyd a marwolaeth yn ymyriadau estron yn ein byd. Doedden nhw ddim yn rhan o gynllun da Duw i ddynoliaeth. Yn hytrach, maen nhw’n perthyn i’r Felltith. Ond tra’u bod yn wirioneddau poenus yn ein byd syrthiedig, pan ddechreuodd Iesu gyhoeddi dyfodiad teyrnas Dduw, fe ddechreuodd wyrdroi effeithiau afiechyd (a marwolaeth hyd yn oed) ac i iachau’r rhai oedd yn dioddef (ee. Luc 4:40). Boed yn iachau’r rhai â thwymyn, agor llygaid y deillion, galluogi’r cloffion i gerdded neu iachau’r gwahanglwyfus, dangosodd Iesu nid yn unig bŵer dros afiechyd, ond fod dim lle iddo yn nheyrnas Dduw, ac yn y pen draw edrychwn ymlaen at amser pan fydd wedi’i yrru allan am byth, i’r dydd pan fydd Duw yn “sychu bob deigryn o’u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach…y mae’r pethau cyntaf wedi mynd heibio” (Datguddiad 21:4).
Mae iachau’r cleifion felly yn waith y Deyrnas, ac mae traddodiad Cristnogol wedi gweld llawer o gredinwyr yn dilyn ôl traed Iesu, yn cynnwys drwy wneud gwaith meddygol. Yn wir, mae’r Beibl yn cofnodi fod Luc ei hun yn feddyg (Colosiaid 4:14). Dan arweiniad Basil o Cesarea, Cristnogion a sefydlodd yr ysbytai cyntaf un yn y bedwaredd Ganrif OC – cyn hynny roedd gofal meddygol wedi cael ei ddarparu gan feddygon preifat i’r rhai oedd yn gallu ei fforddio, ond roedd Cristnogion yn cynnig gofal meddygol i bawb, yn rhad ac am ddim – ac yn y pen draw gorchmynnodd Charlemagne bod rhaid i eglwysi cadeiriol fod ag ysbytai’n gysylltiedig â nhw. Heddiw, mae Cristnogion yn dal i arloesi o fewn meddygaeth, er enghraifft Cicely Saunders a sefydlodd mudiad yr hosbisau ac a arweiniodd gyda datblygu gofal lliniarol.
Cryn dipyn o arian hyd yn hyn, felly. Ond mae cwestiynau ynghylch sut y gallwn ni weithredu hyn heddiw yn fwy aneglur. Mae’r DU yn gweithredu gyda darparydd gofal iechyd sy’n cael ei gyllido gan y llywodraeth (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) sy’n cael ei roi am ddim (yn wahanol i America, er enghraifft). Ond anaml y mae wythnos yn mynd heibio heb benawdau fod y GIG ar fin chwalu, neu fod rhestrau aros yn rhy hir; mewn ymateb i hyn, mae llawer sydd â’r gallu ariannol yn talu am ofal iechyd preifat i gael triniaeth, a hynny’n ddealladwy. Mae’r problemau hyn yn debygol o ddatblygu ymhellach gyda phoblogaeth sy’n heneiddio’n gynyddol, ac mae mwy o arian y llywodraeth yn mynd ar ofal iechyd nag ar unrhyw faes arall (gyda’r swm yn cynyddu’n barhaus a hynny heb gael effaith amlwg ar yr anawsterau).
Mewn ymateb, beth am nodi tair egwyddor allweddol i siapio ein meddylfryd: gwerth bodau dynol, yr angen i gyfeirio at y Beibl a’r angen i ofalu am y tlodion.
Er bod gwerth ariannol yn cael ei roi ar ofal iechyd, mae pobl eu hunain wedi eu creu ar ddelw Duw (Genesis 1:27) ac wedi eu trwytho ag urddas cynhenid a gwerth anfeidraidd. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn ceisio ymestyn bywyd yn artiffisial – gan fod Duw wedi ordeinio ein dyddiau yn ei lyfr (Salm 139:16) – ond mae’n awgrymu y dylai darparu gofal iechyd o ansawdd da i bawb, boed yn ifanc neu’n hen, yn wryw neu’n fenyw, yn anabl neu’n abl, fod yn flaenoriaeth economaidd i’n cenedl, er gwaethaf y ffaith y gall y gost fod yn uchel.
Yn ail, mae’n rhaid i ni edrych ar y Beibl i weld sut beth yw gofal iechyd da. Nid yw pawb heddiw’n cytuno ar beth yw gofal iechyd. Heddiw, byddai rhai actifyddion yn honni fod “erthyliad yn ofal iechyd”, y dylai pobl hŷn gael eu caniatáu i achosi eu marwolaeth eu hunain drwy gyflwyno deddfwriaeth Hunanladdiad Cynorthwyedig, ac y dylai pobl ifanc sy’n cwestiynu eu rhywedd gael eu rhoi ar feddyginiaeth atal y glasoed a llwybrau meddygol eraill. Yn anffodus, nid yw gofal iechyd yn faes niwtral: mae meysydd ohono y gallem ni fel Cristnogion fod eisiau mynd i’r afael â nhw, wedi’n gwreiddio yng ngair Duw, wrth i’n gwlad edrych ar sawl cyfyng-gyngor moesegol cymhleth.
Yn olaf, fel ym mhob elfen o fywyd, fe ddylai hi fod yn flaenoriaeth i sicrhau fod gofal iechyd yn arbennig o hygyrch i’r rhai sy’n llai cyfoethog. Gwyddom fod gan Dduw galon arbennig dros y tlodion, ac i’r rhai hynny sydd bellaf oddi wrth gyfiawnder; roedd ei galon wedi’i drwytho yng nghyfraith yr Hen Destament, oedd yn cynnwys amryw o fesurau oedd er lles y rhai mewn tlodi, a chafodd Israel yr Hen Destament ei feirniadu pan fyddai’r tlodion yn cael eu hanghofio, megis gan y proffwydi. Dywedodd Iesu ei fod wedi dod i “ddatgan y newyddion da i’r tlodion”, yn ei bregeth gyhoeddus gyntaf oedd yn datgan ei agenda i ddod â theyrnas Duw. P’un a yw ein model ar gyfer gofal iechyd yn wasanaeth cyhoeddus llawn, neu yn gymysgedd o ofal iechyd cyhoeddus a gofal iechyd preifat, mae’n flaenoriaeth i sicrhau fod gan y tlodion a’r rhai agored i niwed fynediad i’r gofal sydd ei angen arnyn nhw.
17If anyone, then, knows the good they ought to do and doesn’t do it, it is sin for them.
28 God blessed them and said to them, ‘Be fruitful and increase in number; fill the earth and subdue it. Rule over the fish in the sea and the birds in the sky and over every living creature that moves on the ground.’