Mae trin y tir bob amser wedi bod yn rhan o gynllun da Duw ar gyfer dynoliaeth: dechreuodd hanes cyflogaeth dyn gyda garddwr!
Ond er bod Duw wedi rhoi’r gorchymyn i ddynoliaeth: “llanwch y ddaear a darostyngwch hi;” (Genesis 1:28), nid oedd hyn i fod yn rheol ymelwol lle gallen ni wneud beth bynnag yr oeddem eisiau ei wneud. Rhoddwyd awdurdod i ddyn, ond nid oedd hyn i fod yn dra-arglwyddiaeth. Yn y pen draw, stiwardiaid Duw ydym ni: “Eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a’i llawnder.” (Salm 24:1).
Nid yw gweld y greadigaeth allan o drefn yn syndod. Pan syrthiodd y ddynoliaeth, fe syrthiodd y greadigaeth ar yr un pryd, a chafodd y berthynas rhwng dyn a’r byd ei thorri. Melltithiodd Duw’r ddaear, a daeth drain ac ysgall allan o’r tir (Genesis 3:17-18). Mae newid yn yr hinsawdd, o waith dyn, yn enghraifft o’r ffordd y mae bodau dynol yn dod i wrthdaro gyda chreadigaeth syrthiedig.
Ond mae effeithiau hyn yn bell-gyrhaeddol. Mae sychder yn Nwyrain Affrica wedi arwain at 22 miliwn o bobl mewn perygl o newyn difrifol. Mae dros 4 miliwn erw o gnydau wedi cael eu dinistrio ym Mhacistan. Mae lefelau’r môr yn codi wedi rhoi niferoedd uchel o bobl ar draws y byd mewn perygl o lifogydd difrifol. Rhai o’r bobl fydd yn cael eu taro waethaf yw’r rhai mwyaf difreintiedig, mewn cenhedloedd datblygol; fel Cristnogion, rydym eisiau “caru’n cymydog”, hyd yn oed pan mae’r cymydog yr ochr arall i’r byd.
Fodd bynnag, mae’r iaith eithafol sy’n cael ei defnyddio gan actifyddion yn arwain at ofn a phryder gwirioneddol. Mae Just Stop Oil wedi dweud fod “Olew a nwy newydd yn weithred o hil-laddiad”; ac mae eraill yn sôn am “ddifodiant byd-eang”. Nid yw iaith apocalyptaidd fel hyn yn rhan o’r stori well y mae Duw’n ei rhoi i ni: medd Iesu, “peidiwch â phryderu am eich einioes, beth i’w fwyta na’i yfed, nac am eich corff, beth i’w wisgo” (Mathew 6:25).
Fel Cristnogion, nid ydym yn credu y bydd y byd yn dod ben nes i’r Arglwydd Iesu ddod yn ôl a gwneud popeth yn iawn. Nid yw hyn yn ein hesgusodi o’n cyfrifoldeb i stiwardio’r ddaear, ond mae yn golygu na ddylen ni ildio i anobaith. Mae Iesu eisoes wedi gorchfygu melltith y cwymp.
Un diwrnod bydd ein byd yn dod i ben, nid o ganlyniad i allyriadau carbon, ond wrth i’r gwir Frenin ddod yn ôl i’w fyd, pan fyddwn yn gweld “nef newydd a daear newydd” (Datguddiad 21:1). Yna fyddwn ni ddim yn pryderu am ein hadnoddau naturiol oherwydd “Bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd, a’r bryniau yn ymdonni.” (Amos 9:13). Mae gofalu am greadigaeth Duw yn wirioneddol bwysig. Ond nid ydym yn gwneud hynny heb obaith.
17If anyone, then, knows the good they ought to do and doesn’t do it, it is sin for them.
28 God blessed them and said to them, ‘Be fruitful and increase in number; fill the earth and subdue it. Rule over the fish in the sea and the birds in the sky and over every living creature that moves on the ground.’