Nid yw’r term ‘Rhyddid i lefaru’ yn ymddangos yn y Beibl; fel cysyniad, mae wedi’i wreiddio fwy yng ngwleidyddiaeth America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag yn yr Ysgrythur.
Nid yw’r Beibl yn awgrymu o gwbl y dylen ni ddisgwyl cael rhyddid i lefaru. Mae’r bywyd y mae Iesu’n ei addo wedi’i farcio gan erledigaeth. Y noson cyn iddo farw, dyma ddywedodd: “Os yw’r byd yn eich casáu chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghasáu i o’ch blaen chwi.” (Ioan 15:18). Mae Iesu’n disgwyl i’n gwerthoedd ni a gwerthoedd y byd wrthdaro, ac i’r byd beidio hoffi’r hyn sydd gennym i’w ddweud.
Mae rhyddid i lefaru llawer y bobl yn y byd yn cael ei gyfyngu. Ar ôl i Pedr ac Ioan iachau’r cardotyn cloff yn Actau 4, roedd y Sanhedrin wedi’u cynhyrfu gan gymryd camau i geisio eu tawelu ac yn eu rhybuddio i beidio â siarad am Iesu eto. Mae ymateb Pedr ac Ioan yn hyfforddiadol heddiw: “A yw’n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi. Ni allwn ni dewi â sôn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a’u clywed.” (Actau 4:19-20).
Os bydd ymdrechion i’n hatal rhag llefaru Gair Duw, rydym i fod i wrando ar Dduw yn hytrach nag ar ddyn. Mae hyn yn amserol ar hyn o bryd mewn perthynas â rhywioldeb a rhywedd, lle mae ymdrechion wedi bod i droseloddi hyfforddiant ac arweiniad bugeiliol sy’n unol ag addysgu Cristnogol hanesyddol.
Ond hyd yn oed os nad yw’r term ‘Rhyddid i Lefaru’ yn Feiblaidd, mae’r cysyniad yn dda: creodd Duw ni’n fodau sy’n cyfathrebu. Er y gall y tafod gael ei ddefnyddio er drygioni, mae’r gallu i siarad yn rhan o gynllun da Duw i ddynoliaeth. Nid yw Duw am i unrhyw un fod heb lais: “Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith.” (Diarhebion 31:8-9).
Mae Duw yn galw ar y pwerus i siarad ar ran y rhai di-rym, fel bod pawb yn cael ei gynrychioli. Ond gwell fyth yw bod y rhai di-lais yn gallu siarad drostynt eu hunain. Rhoddodd Iesu ei hun y gallu i’r mud siarad.
Mae rhan o “garu ein cymydog fel ni ein hunain” yn golygu caniatáu i eraill siarad yn rhydd. Er mwyn i ryddid llefaru weithio, mae’n rhaid iddo weithio i bawb, mewn cymdeithas lle mae pobl yn gallu trafod heb gael eu tawelu. Fel Cristnogion, mae’n rhaid i ni wrando ar bethau nad ydyn ni’n eu hoffi, yn gyfnewid am allu dweud pethau ein hunain.
Un peth yw cael y gallu i siarad. Ond fel Cristnogion, rydyn ni’n cael ein galw i siarad mewn ffordd arbennig: gyda gras a gwirionedd, gan gydnabod fod y rhai rydyn ni’n anghytuno â nhw wedi eu creu “ar lun a delw Duw”. Mae llefaru i fod er lles pobl eraill; nid yw i fod yn greulon nac yn faleisus. Mae hyd yn oed beirniadaeth a herio i fod i adeiladu’r person sy’n eu derbyn. Fel yr ysgrifennodd Paul am siarad gyda rhai sydd ddim yn Gristnogion: “Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob dyn fel y dylid” (Colosiaid 4:6).
17If anyone, then, knows the good they ought to do and doesn’t do it, it is sin for them.
28 God blessed them and said to them, ‘Be fruitful and increase in number; fill the earth and subdue it. Rule over the fish in the sea and the birds in the sky and over every living creature that moves on the ground.’